Met Opera: Der Fliegende Holländer (Wagner)
**LIVE BROADCAST - CANCELLED**
Mae’ Met Opera yn Efrog Newydd wedi cyhoeddi heno fod eu holl berfformiadau hyd at Fawrth 31 wedi’u canslo yn dilyn cyngor gan Adran Iechyd yr Unol Daleithiau. Gallwch weld y cyhoeddiad ar wefan y Met Opera yma: https://www.metopera.org/user-information/coronavirus-updates/
Yn anffodus, mae hyn yn cynnwys y darllediad dydd Sadwrn hwn o Der Fliegende Hollander (14eg Mawrth am 16.55)ac ni fydd hwn bellach yn digwydd. Byddwn yn eich diweddaru â newyddion am aildrefnu wrth i ni ei dderbyn. Os ydych eisoes wedi archebu tocynnau ar gyfer y dangosiad hwn bydd ein swyddfa docynnau yn cysylltu â chi er mwyn trefnu ad-daliad neu gredyd ar gyfer eich archeb.
Mae Valery Gergiev yn arwain cast gwych dan arweiniad y baswr-bariton Evgeny Nikitin fel yr Iseldirwr, gyda’r soprano o'r Almaen Anja Kampe yn ymddangos am y tro cyntaf gyda'r Met fel y Senta ffyddlon. Ei chariad anhunanol hi yw’r hyn sydd angen ar yr Iseldirwr.
Wedi ei ysbrydoli gan y Flying Dutchman, mae Capten llong ysbrydol sydd wedi ei gondemnio i hwylio’r moroedd am dragwyddoldeb, yn cael cynnig cyfle am achubiaeth drwy wir gariad.
Ar ôl i’w gynhyrchiad cyfareddol diweddar o Parsifal syfrdanu cynulleidfaoedd y Met, dychwela’r cyfarwyddwr François Girard i lwyfannu campwaith cynnar iasol Wagner.
*NEWID YN Y CAST *Bydd Evgeny Nikitin yn canu rôl yr Iseldirwr ar gyfer y darllediad Byw mewn Manylder Uwch o Der Fliegende Holländer ar 14 Fawrth, gan gymryd lle Syr Bryn Terfel.
£16 (£15)