MARK THOMAS: WALKING THE WALL
FFRYDIO FYW TRWY VIMEO - archebwch trwy'r ddolen archebu isod
Ac yntau byth yn un i gymryd yr opsiwn hawdd, penderfynodd Mark fynd i grwydro yn y Dwyrain Canol a cherdded ar hyd Gwahanfur Israel rhwng ochr Israel ac ochr Palesteina. Dyma stori 300,000 o ymsefydlwyr; wal 750 km; chwe arestiad, un llabyddiad; gormod o hwmws a chwestiwn syml ... oes modd dianc rhag y cwbl gyda thaith gerdded dda?
Yn ôl yr arfer, bydd cyflwyniad byw gan Mark (gyda dehonglydd BSL), ffrydio’r sioe wedi'i ffilmio (gydag opsiwn i isdeitlo) ac yna sesiwn Holi ac Ateb gyda gwesteion arbennig (gyda dehonglydd BSL). Ac fel o'r blaen bydd recordiad y noson gyfan ar gael am 24 awr ar ôl y llif byw.
Rydym hefyd yn cynnig trafodaeth am ddim ychwanegol wedi'i recordio gyda Mark a Phil Stebbing a aeth gyda Mark a ffilmio'r daith gerdded. Bydd hwn ar gael am wythnos ar ôl y llif byw.
Mwy o wybodaeth am sioe Mark, Walking the Wall ...
Ym mis Rhagfyr 2009, treuliodd Mark 9 wythnos yn cerdded Gwahanfur Israel yn ei gyfanrwydd.
Dechreuwyd ar y wal yn 2003 ac ar ôl ei chwblhau, bydd yn 750km o hyd. Mae’n strwythur milwrol gyda thyrau gwylio yn ei oruchwylio gydag arwyddion yn rhybuddio am ‘farwolaeth ar unwaith’ a Heddlu Byddin Israel yn ei batrolio. Mae'n amgylchynu'r Palesteiniaid yn llwyr a gallant fynd allan trwy reolfeydd gyda chaniatâd yn unig. Mae tua 300,000 o Balesteiniaid yn byw yn yr ardal honno.
Yn ystod y 9 wythnos o gerdded, cafodd Mark ei rwystro a’i atal rhag mynd 6 neu 7 gwaith am sawl awr gan y Fyddin.
Cafodd ei rwystro a’i atal rhag mynd gan y Palesteiniaid hefyd, ond roedd hynny ar gyfer coffi a bwyd yn bennaf.
Archebwch trwy'r ddolen archebu ar ein gwefan a bydd 20% o'r enillion yn cael eu rhoi i gefnogi’r Mwldan yn ystod ein cyfnod cau.