Exhibition On Screen: Van Gogh: Poets & Lovers

Dau gan mlynedd ar ôl agor y National Gallery yn Llundain a chanrif ar ôl iddo gaffael gweithiau Van Gogh cyntaf, mae’n cynnal arddangosfa Van Gogh fwyaf erioed y DU. Nid yn unig mae Van Gogh yn un o'r artistiaid mwyaf hoffus erioed, ond efallai'r un sy'n cael ei gamddeall fwyaf. Mae'r ffilm hon yn gyfle i ailystyried yr artist eiconig hwn a'i ddeall yn well. Gan ganolbwyntio ar ei broses greadigol unigryw, mae Van Gogh: Poets & Lovers yn archwilio blynyddoedd yr artist yn ne Ffrainc, lle drawsnewidiodd ei arddull. Bellach roedd Van Gogh ar dân dros adrodd straeon yn ei gelf, gan droi'r byd o'i gwmpas yn ofodau bywiog, delfrydol ac yn gymeriadau symbolaidd. Beirdd a chariadon oedd yn llenwi ei ddychymyg; roedd popeth a wnaeth yn ne Ffrainc yn gwasanaethu'r obsesiwn newydd hwn. Yn rhannol, dyma achosodd ei waeledd meddwl ddrwg-enwog, ond ni wnaeth hyn ffrwyno ei greadigrwydd wrth iddo greu campwaith ar ôl campwaith. Archwiliwch un o gyfnodau pwysicaf hanes celf yn y sioe unwaith mewn canrif hon. Wedi'i wneud mewn cydweithrediad agos â'r National Gallery.

£12 (£11)