ANDRÉ RIEU’S 2024 CHRISTMAS CONCERT: GOLD AND SILVER (U)
Mae hwn yn recordiad o berfformiad byw.
Dathlwch hwyl yr ŵyl gyda Chyngerdd Nadolig disglair André Rieu, "Gold and Silver," mewn sinemâu yn unig! Mae'r digwyddiad hudol hwn yn ymgorffori ysbryd y Nadolig, yn dod â llawenydd, cynhesrwydd, a disgleirdeb i'r sgrin fawr. Paratowch i gael eich cludo i fyd rhyfeddol o ysblander cyfareddol gaeafol André! Gyda 150 o chandeliers a 50 o gandelbra Fenisaidd yn disgleirio, fe deimlwch eich calon yn cael ei chynhesu gan alaw hudolus eich holl hoff glasuron Nadolig. Yn ymuno ag André Rieu ar y llwyfan fydd ei gerddorfa Johann Strauss annwyl, ynghyd ag artistiaid gwadd arbennig, a'r ifanc a thalentog Emma Kok. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddathlu cerddoriaeth, cariad, a swyn y Nadolig, gyda Chyngerdd Nadolig newydd André Rieu yn y sinema - " Gold and Silver ".
£18 (£17)