Lea Sautin: Trwy'r Ffenestr Bapur
Mae gwaith Lea Sautin yn canolbwyntio ar draddodiadau chwedleua Cymru, yn archwilio afluniadau a thrawsffurfiadau sy’n digwydd dros amser, ar draws ieithoedd a rhwng fformatau (o berfformiad ar lafar i lawysgrifen ddarluniadol).
Gan ddefnyddio elfennau a gymerwyd o chwedlau hynafol Cymreig yn sail i’w gwaith, mae Sautin yn defnyddio cadwyn o brosesau (print i gerflunio i ffotograffiaeth) i adlewyrchu’r esblygiad a’r newidiadau yn y straeon.
Trwy ei gwaith bydd Sautin yn dathlu crefft gyfnewidiol y chwedleuwr; p’un ai yw’r cyfrwng yn llafar, yn ysgrifenedig neu wedi ei ddarlunio.
Bydd adrodd stori a cherddoriaeth gyda Lynne Denman yn yr oriel am 16.00 29.04.17 - mynediad am ddim.
leasautin.weebly.com @LeaSautin #ffenestrbapur