TWIN TOWN (18) - Taith Pen-blwydd yn 25 oed | 25th Anniversary Tour

Dros y blynyddoedd, mae Twin Town wedi profi i fod yn ffilm a chanddi ddilynwyr selog! Yn ôl ym mis Mawrth roeddem wrth ein bodd i werthu pob tocyn ar gyfer ein dangosiad arbennig i ddathlu 25 mlynedd, a nawr mae gennym gyfle i wneud y cyfan eto, yn ogystal â sesiwn holi ac ateb gwych arall gan y cyfarwyddwr Kevin Allen. Bachwch eich tocynnau tra bod cyfle!

(Yr un pris â thocyn sinema cyffredin!)

 

Mae Twin Town yn glasur cwlt, a hyrddiodd sinema Gymreig i’r brif ffrwd nôl ar ddiwedd y 90au. Dyma’r ffilm a roddodd y sbotolau ar Rhys Ifans fel dawn unigryw a dangosodd ochr o ddiwylliant Cymreig nad oedd yn cael ei phortreadu’n aml ar sgriniau mawr neu fach. Wedi’i henwebu am Bafta, mae’r ffilm bellach yn 25 oed, felly byddwn yn dathlu hynny fel rhan o daith pen-blwydd Twin Town fis Mawrth eleni, a bydd y cyfarwyddwr Kevin Allen yma i ymuno â’r sbort ac i ateb rhai cwestiynau…

Bryn Cartwright (William Thomas) contractwr toi cyfoethog, cadeirydd clwb rygbi ac un o’r hoelion wyth lleol sy’n ben ar bethau nes i Fatty Lewis (Huw Ceredig) tasgmon lleol syrthio oddi ar ysgol tra’n gwneud jobyn i Cartwright. Mae’r efeilliaid jynci ac wyrion Fatty, Julian (Llyr Ifans) a Jeremy (Rhys Ifans), nad ydyn nhw’n efeilliaid mewn gwirionedd - yn ceisio cael iawndal gan Cartwright, sy'n gwrthod talu. Dan ddylanwad cyffuriau, mae Julian a Jeremy yn achosi anrhefn nid yn unig i Cartwright a’i deulu ond i bawb maen nhw’n dod ar eu traws, tra bod Terry (Dougray Scott) a Greyo (Dorian Thomas), dau blismon lleol yn defnyddio eu dulliau cadw heddwch amheus nhw eu hunain wrth i ddigwyddiadau droelli allan o bob rheolaeth.

 

22 o resymau pam mai Twin Town yw'r ffilm gwlt Gymreig orau erioed

'Os bu erioed ffilm sy’n fwy doniol, yn fwy tywyll, yn fwy Cymreig neu’n fwy dyfynadwy na Twin Town, yn bendant nid ydym wedi ei gweld hi. O'r olygfa agoriadol wrth i 525 deuliw wibio dros ben y camera, i'r eiliadau marwol (rhybudd sboilyr) wrth i gôr meibion ganu Myfanwy ar bier y Mwmbwls o dan lifoleuadau, mae'n ffilm ag arni stamp clasur'.

https://www.walesonline.co.uk/incoming/gallery/22-reasons-twin-town-greatest-6431260

 

"In't it? In't it? In't it though?"