TRAP (15 TBC)
M. Night Shyamalan | UK | USA | Yemen | 2024 | tbc’
Mae Trap yn ffilm gyffro seicolegol Americanaidd, wedi'i gosod mewn cyngerdd, gan y sgriptiwr a’r cyfarwyddwr ffilmiau arswyd a chyffro, M. Night Shyamalan (Knock at the Cabin, The Sixth Sense, Unbreakable). Disgwyliwch lawer o droeon fel sy’n nodweddiadol yng ngwaith Shyamalan. Gyda Josh Hartnett (Oppenheimer, Black Hawk Down) a'r gantores Saleka Shyamalan yn ei début fel actores.
£8.40 (£7.70)