COMMON GROUND (12A)

Joshua Tickell | Rebecca Harrell Tickell | USA | 2024 | 101’

Ahithau wedi ennill yng Ngŵyl Ffilm Tribeca, mae Common Ground yn ffilm ddogfen newydd bwysig sy’n rhoi gobaith i genedlaethau’r dyfodol gan ei bod hi’n awgrymu ffyrdd o adfer system blanedol sydd wedi torri. Trwy asio datgeliad newyddiadurol â straeon hynod bersonol gan y rheiny ar reng flaen y mudiad bwyd, mae Common Ground yn datgelu gwe dywyll o arian, pŵer, a gwleidyddiaeth y tu ôl i’n system fwyd doredig, ac yn datgelu sut mae arferion anghyfiawn wedi ffurfio ein system ffermio bresennol lle mae ffermwyr o bob lliw croen yn llythrennol yn marw i'n bwydo.

£8.40 (£7.70) (£5.90)