BALLERINA (15 TBC)

Len Wiseman | USA | 2025 | tbc’

Mae Keanu Reeves yn ymddangos am ychydig fel John Wick yn y ffilm gyffro neo-noir hon, sef y bumed ffilm ym masnachfraint John Wick. Mae wedi’i gosod rhwng digwyddiadau John Wick: Chapter 3 – Parabellum a John Wick: Chapter 4. A hithau’n llofruddwraig hyddysg yn nhraddodiadau'r sefydliad Ruska Roma, mae Eve Macarro (Ana de Armas) yn ceisio dial yn dilyn marwolaeth ei thad.

£8.40 (£7.70) (£5.90)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Fawrth 17 Mehefin @ 7.30pm

RHYBUDD. Nid yw'r hysbyslun hwn yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd iau