THE AMATEUR (15 TBC)
James Hawes | Canada | USA | 2025 | tbc’
Rami Malek sy’n serennu fel Charlie Heller, datgodiwr gwych ond hynod fewnblyg sy’n gweithio i’r CIA. Caiff bywyd Charlie ei droi wyneb i waered pan mae ei wraig yn cael ei lladd mewn ymosodiad terfysgol yn Llundain. Pan mae ei oruchwylwyr yn gwrthod gwneud dim ynglŷn â’r peth, mae Charlie’n cymryd y mater i'w ddwylo ei hun. Mae’n cychwyn ar daith beryglus ar draws y byd i ddod o hyd i'r rheiny sy'n gyfrifol, gyda'i ddeallusrwydd fel ei arf bwysicaf o ran osgoi ei erlidwyr a llwyddo i dalu’r pwyth yn ôl.
£8.40 (£7.70) (£5.90)